Genesis 2:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair.

11. Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur;

12. y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx.

13. Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia.

14. Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.

Genesis 2