Genesis 19:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Felly y noson honno rhoesant win i'w tad i'w yfed; a daeth yr hynaf a gorwedd gyda'i thad, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.

34. Trannoeth dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, “Dyna fi wedi gorwedd gyda'm tad neithiwr; gad inni roi gwin iddo i'w yfed eto heno, a dos dithau i orwedd gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad.”

35. Felly rhoesant win i'w tad i'w yfed y noson honno hefyd; ac aeth yr ieuengaf i orwedd gydag ef, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.

36. Felly y beichiogodd dwy ferch Lot o'u tad.

Genesis 19