Genesis 10:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

14. Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15. Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16. hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17. Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18. Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19. ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20. Dyna feibion Cham, yn ôl eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd â'u gwledydd a'u cenhedloedd.

Genesis 10