Galarnad 4:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD,a ddaliwyd yn eu maglau,a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod efy byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.

21. Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom,sy'n preswylio yng ngwlad Us!Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd;byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.

22. Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion;ni chei dy gaethgludo eto.Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom;fe ddatgelir dy bechod.

Galarnad 4