Galarnad 2:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Gorwedd yr ifanc a'r henyn y llwch ar y strydoedd;y mae fy merched a'm dynion ifaincwedi syrthio trwy'r cleddyf;lleddaist hwy yn nydd dy ddicter,a'u difa'n ddiarbed.

22. Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad,fel ar ddydd gŵyl;nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbedyn nydd dicter yr ARGLWYDD;lladdodd fy ngelynbob un a anwesais ac a fegais.

Galarnad 2