Galarnad 2:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Beth allaf ei ddweud o'th blaid,a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,y forwyn, ferch Seion?Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,pwy a all dy iacháu?

14. Yr oedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwyddog a thwyllodrus;ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedder mwyn adfer dy lwyddiant;yr oedd yr oraclau a roddasant itiyn gelwyddog a chamarweiniol.

15. Y mae pob un sy'n mynd heibioyn curo'i ddwylo o'th achos;y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennauar ferch Jerwsalem:“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,ac yn llawenydd yr holl ddaear?”

16. Y mae dy holl elynionyn gweiddi'n groch yn dy erbyn,yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;yr ydym wedi cael ei weld!”

17. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd;cyflawnodd ei fwriad,a drefnodd ers amser maith,a dinistriodd yn ddiarbed;gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos,a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.

18. Gwaedda ar yr Arglwydd,O fur merch Seion;tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos;paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.

19. Cod, a gwaedda liw nos,ar gychwyn pob gwyliadwriaeth;tywallt dy galon fel dŵro flaen yr Arglwydd;estyn dy ddwylo tuag atoam fywyd dy blant,sy'n llewygu gan newynym mhen pob stryd.

Galarnad 2