Exodus 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli;

2. os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir â phla o lyffaint.

3. Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th dŷ ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.

4. Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.’ ”

Exodus 8