Exodus 7:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

7. Pan lefarodd Moses ac Aaron wrth Pharo, yr oedd Moses yn bedwar ugain oed ac Aaron yn dair a phedwar ugain.

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

9. “Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.’ ”

10. Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.

Exodus 7