Exodus 7:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dos at Pharo yn y bore, wrth iddo fynd tua'r afon; aros amdano ar lan y Neil, a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.

16. Dywed wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi fy anfon atat i ddweud, “Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli yn yr anialwch”; ond hyd yn hyn nid wyt wedi ufuddhau iddo.’

17. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma sut y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD: â'r wialen sydd yn fy llaw byddaf yn taro dŵr y Neil, ac fe dry'n waed.

Exodus 7