Exodus 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ”

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.”

3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi.

4. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law.

Exodus 4