Exodus 36:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd â'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

14. Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

15. Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

16. Cydiodd hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen,

17. a gwnaeth hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

18. Gwnaeth hanner cant o fachau pres i gydio'r babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith,

19. a gwnaeth orchudd i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, ac o grwyn morfuchod.

Exodus 36