Exodus 35:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

10. “Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

11. y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;

12. yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;

13. y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;

14. y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;

Exodus 35