Exodus 35:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

5. Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;

6. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

7. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

8. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

Exodus 35