Exodus 33:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ond,” meddai, “ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw.”

21. Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, “Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig,

22. a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio â'm llaw nes imi fynd heibio;

23. yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb.”

Exodus 33