Exodus 33:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod â'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, ‘Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.’

13. Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon.”

14. Atebodd yntau, “Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa.”

Exodus 33