Exodus 32:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.’ ”

28. Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.

29. Dywedodd Moses, “Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn.”

Exodus 32