Exodus 32:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, “Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi.” Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,

27. a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.’ ”

28. Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.

Exodus 32