Exodus 30:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.

29. Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda â hwy hefyd yn gysegredig.

30. Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.

31. Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.

32. Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.

33. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.’ ”

34. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,

Exodus 30