Exodus 29:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. O fasged y bara croyw sydd gerbron yr ARGLWYDD cymer un dorth, un gacen wedi ei gwneud ag olew, ac un deisen;

24. rho'r cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

25. Yna cymer hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor gyda'r poethoffrwm yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD; offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD ydyw.

26. “Cymer frest hwrdd ordeinio Aaron, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; dy eiddo di fydd y rhan hon.

27. Cysegra'r rhannau o'r hwrdd sy'n eiddo i Aaron a'i feibion, sef y frest a chwifir a'r glun a neilltuir.

Exodus 29