Exodus 25:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.

3. Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;

4. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

5. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

6. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

Exodus 25