Exodus 16:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dywedodd Moses wrthynt, “Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth.”

20. Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt.

21. Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.

Exodus 16