Exodus 15:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.

2. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd;ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.

3. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;yr ARGLWYDD yw ei enw.

4. Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.

5. Daeth llifogydd i'w gorchuddio,a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.

Exodus 15