Esther 9:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar, daeth yr amser i gyflawni gair a gorchymyn y brenin. Trowyd y diwrnod, y gobeithiai gelynion yr Iddewon eu trechu arno, yn ddiwrnod i'r Iddewon drechu eu caseion.

2. Unodd yr Iddewon yn eu dinasoedd ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus i ymosod ar y rhai oedd yn ceisio'u niweidio. Ni wrthwynebodd neb hwy, oherwydd yr oedd ar yr holl bobl eu hofn.

3. Cawsant eu cynorthwyo gan dywysogion y taleithiau, y pendefigion, y rheolwyr a gweision y brenin, am fod arnynt ofn Mordecai.

Esther 9