12. Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, â gorchudd am ei ben.
13. Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wŷr doeth a'i wraig Seres wrtho, “Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef.”
14. Tra oeddent yn siarad ag ef, daeth eunuchiaid y brenin a mynd â Haman ar frys i'r wledd a baratôdd Esther.