Esther 2:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun.

8. Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i dŷ'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd.

9. Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o dŷ'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhŷ'r gwragedd.

10. Nid oedd Esther wedi sôn am ei chenedl na'i thras, am i Mordecai orchymyn iddi beidio.

11. Bob dydd âi Mordecai heibio i gyntedd tŷ'r gwragedd er mwyn gwybod sut yr oedd Esther, a beth oedd yn digwydd iddi.

12. Ar ddiwedd deuddeg mis, sef y cyfnod o baratoi a osodwyd ar gyfer y gwragedd—chwe mis gydag olew a myrr, a chwe mis gyda pheraroglau ac offer coluro'r gwragedd—dôi tro pob merch i fynd at y Brenin Ahasferus.

13. Pan ddôi'r ferch at y brenin fel hyn, câi fynd â beth bynnag a fynnai gyda hi o dŷ'r gwragedd i balas y brenin.

14. Âi allan gyda'r hwyr, a dychwelyd yn y bore i ail dŷ'r gwragedd o dan ofal Saasgas, eunuch y brenin a ofalai am y gordderchwragedd; ni fyddai'n mynd eilwaith at y brenin oni bai iddo ef ei chwennych a galw amdani wrth ei henw.

15. Pan ddaeth tro Esther, y ferch a fabwysiadwyd gan Mordecai am ei bod yn ferch i'w ewythr Abihail, i fynd i mewn at y brenin, ni ofynnodd hi am ddim ond yr hyn a awgrymodd Hegai, eunuch y brenin a cheidwad y gwragedd; ac yr oedd Esther yn cael ffafr yng ngolwg pawb a'i gwelai.

Esther 2