Esra 8:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau.

33. Ac ar y pedwerydd dydd trosglwyddwyd yr arian a'r aur a'r llestri yn nhŷ ein Duw i ofal Meremoth fab Ureia, yr offeiriad, ac Eleasar fab Phinees, ac yr oedd Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui, y Lefiaid, gyda hwy.

34. Gwnaed cyfrif o bopeth wrth ei drosglwyddo, a'r un pryd gwnaed rhestr o'r rhoddion.

35. Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

36. Hefyd rhoesant orchymyn y brenin i'w swyddogion a'i dywysogion yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a chael eu cefnogaeth i'r bobl ac i dŷ Dduw.

Esra 8