7. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,nac ar ei heddwchi orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth,i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder,o hyn a hyd byth.Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
8. Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,ac fe ddisgyn ar Israel.
9. Gostyngir yr holl bobl—Effraim a thrigolion Samaria—sy'n dweud mewn balchder a thraha,
10. “Syrthiodd y priddfeini,ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd;torrwyd y prennau sycamor,ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.”
11. Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn;y mae'n cyffroi eu gelynion.
12. Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewinyn ysu Israel a'u safnau'n agored.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
13. Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd,na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd;
14. am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon,y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd;