6. Clywch! Gwaedd o'r ddinas, llef o'r deml,sŵn yr ARGLWYDD yn talu'r pwyth i'w elynion.
7. “A fydd gwraig yn esgor cyn dechrau ei phoenau?A yw'n geni plentyn cyn i'w gwewyr ddod arni?
8. A glywodd rhywun am y fath beth?A welodd rhywun rywbeth tebyg?A ddaw gwlad i fod mewn un dydd?A enir cenedl ar unwaith?Ond gyda bod Seion yn clafychu,bydd yn esgor ar ei phlant.
9. A ddygaf fi at y geni heb beri esgor?”medd yr ARGLWYDD.“A baraf fi esgor ac yna'i rwystro?”medd dy Dduw.
10. “Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd,bawb sy'n ei charu;llawenhewch gyda hi â'ch holl galon,bawb a fu'n galaru o'i phlegid,
11. er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwalluo'i bronnau diddanus,er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanugan ddigonedd ei gogoniant.”
12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon,a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol.Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys,a'ch siglo ar ei gliniau.
13. Fel y cysurir plentyn gan ei fambyddaf fi'n eich cysuro chwi;ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.
14. Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon,bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn;dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision,a'i lid yn erbyn ei elynion.
15. Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân,a'i gerbydau fel corwynt,i dalu'r pwyth mewn llid dicllon,ac i geryddu â fflamau tân.
16. Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.