Eseia 60:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau Tarsis ar y blaen,i ddod â'th blant o bell,a'u harian a'u haur gyda hwy,er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel;oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.

10. “Dieithriaid fydd yn codi dy furiau,a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu,oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro,penderfynais dosturio wrthyt.

11. Bydd dy byrth yn agored bob amser,heb eu cau ddydd na nos,er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat,gyda'u brenhinoedd yn osgordd.

12. Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu;dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.

13. Daw gogoniant Lebanon atat—y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs—i harddu man fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.

Eseia 60