Eseia 58:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnodac yn codi ar yr hen sylfeini;fe'th elwir yn gaewr bylchau,ac yn adferwr tai adfeiliedig.

13. “Os peidi â sathru'r Saboth dan draed,a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd,ond galw'r Saboth yn hyfrydwch,a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus;os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio,na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;

14. yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD.Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear,a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.”Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.

Eseia 58