Eseia 57:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu.Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd,ac awel yn eu chwythu i ffwrdd.Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fiyn meddiannu'r ddaear,ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”

14. Fe ddywedir,“Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd;symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl.”

15. Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,a'i enw'n Sanctaidd:“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,a bywhau calon y rhai cystuddiol.

16. Ni fyddaf yn ymryson am bythnac yn dal dig yn dragywydd,rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;oherwydd myfi a greodd eu hanadl.

Eseia 57