Eseia 56:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. medd yr Arglwydd DDUW,sy'n casglu alltudion Israel.“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”

9. Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt,holl anifeiliaid y coed.

10. Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall;y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth,yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian,

11. yn gŵn barus na wyddant beth yw digon.Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall,pob un yn troi i'w ffordd ei hun,a phob un yn edrych am elw iddo'i hun,

Eseia 56