3. Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD,“Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.”Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.”
4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothauac yn dewis y pethau a hoffafac yn glynu wrth fy nghyfamod,
5. y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriaugofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched;rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith.
6. A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD,yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw,sy'n dod yn weision iddo ef,yn cadw'r Saboth heb ei halogiac yn glynu wrth fy nghyfamod—