Eseia 50:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu,i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;bob bore y mae'n agor fy nghlusti wrando fel un yn dysgu.

5. Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

6. Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

7. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,am hynny ni chaf fy sarhau;felly gosodaf fy wyneb fel callestr,a gwn na'm cywilyddir.

Eseia 50