Eseia 48:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Er mwyn fy enw ateliais fy llid,er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa.

10. Purais di, ond nid fel arian;profais di ym mhair cystudd.

11. Er fy mwyn fy hun y gwneuthum hyn;a gânt halogi fy enw?Ni roddaf fy anrhydedd i arall.”

12. “Clyw fi, Jacob,ac Israel, yr un a elwais:Myfi yw;myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd.

13. Fy llaw a sylfaenodd y ddaear,a'm deheulaw a daenodd y nefoedd;pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.”

14. “Dewch bawb at eich gilydd a gwrando;pwy ohonynt a fynegodd hyn?Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffifydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.

15. Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd;dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd.

16. Dewch ataf, clywch hyn:O'r dechrau ni leferais yn ddirgel;o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.”Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUWa'm hanfonodd i.

Eseia 48