5. I bwy y'm cyffelybwch? Â phwy y gwnewch fi'n gyfartal?I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi?
6. Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs,ac yn arllwys eu harian i glorian,yn llogi eurych ac yn gwneud duwi'w addoli ac ymgrymu iddo.
7. Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario,gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud;os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb,nac yn ei achub o'i gyfyngder.
8. “Cofiwch hyn, ac ystyriwch;galwch i gof, chwi wrthryfelwyr.
9. Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl;oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall,yn Dduw heb neb yn debyg i mi.