Eseia 45:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;ar wahân i mi nid oes Duw.Gwregysais di, er na'm hadwaenit,

6. er mwyn iddynt wybod,o godiad haul hyd ei fachlud,nad oes neb ond myfi.Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,

7. yn llunio goleuniac yn creu tywyllwch,yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.

8. “Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;tywallted yr wybren gyfiawnder.Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth eginoac i gyfiawnder flaguro.Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

9. “Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,darn o lestr yn erbyn y crochenydd.A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?

Eseia 45