Eseia 44:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th wnaeth,a'th luniodd o'r groth ac a'th gynorthwya:Paid ag ofni, fy ngwas Jacob,Jesurun, yr hwn a ddewisais.

3. Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychediga ffrydiau ar y sychdir;tywalltaf fy ysbryd ar dy hada'm bendith ar dy hiliogaeth.

4. Tarddant allan fel glaswellt,fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.

5. Dywed un, ‘Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD’;bydd un arall yn cymryd enw Jacob,ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, ‘Eiddo'r ARGLWYDD’,ac yn ei gyfenwi ei hun, ‘Israel’.”

6. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei Waredydd:“Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf;nid oes duw ond myfi.

Eseia 44