Eseia 43:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”

16. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,a agorodd ffordd yn y môra llwybr yn y dyfroedd enbyd;

17. a ddug allan gerbyd a march,byddin a dewrion,a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,yn darfod ac yn diffodd fel llin:

Eseia 43