Eseia 42:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,a mynegaf yn awr bethau newydd;cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”

10. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch ei glod o eithaf y ddaear;bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol,yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.

11. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.

12. Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr,fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid;y mae'n bloeddio, yn codi ei lais,ac yn trechu ei elynion.

Eseia 42