Eseia 41:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”

5. Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;daeth cryndod ar eithafion byd;daethant, a nesáu.

6. Y mae pawb yn helpu ei gilydd,a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”

7. Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych,a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwylyn annog yr un sy'n taro ar yr eingion;y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn,ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.

8. “Ti, Israel, yw fy ngwas;ti, Jacob, a ddewisais,had Abraham, f'anwylyd.

9. Dygais di o bellteroedd byd,a'th alw o'i eithafion,a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti;rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’

Eseia 41