2. Yn y dydd hwnnw,bydd blaguryn yr ARGLWYDDyn brydferthwch ac yn ogoniant;a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwchi'r rhai dihangol yn Israel.
3. Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar ôl yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem.
4. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd,
5. yna fe grea'r ARGLWYDD gwmwl yn y dydd, a llewyrch tân fflamllyd yn y nos, uwchben pob adeilad ar Fynydd Seion a phob man ymgynnull. Canys bydd y gogoniant yn ortho dros bopeth,
6. ac yn bafiliwn i gysgodi yn y dydd rhag gwres, ac yn noddfa a lloches rhag tymestl a glaw.