Eseia 38:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.

7. Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.

8. Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.

9. Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:

Eseia 38