Eseia 37:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

14. Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD,

15. a gweddïo fel hyn:

16. “O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.

17. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw; O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl; gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.

Eseia 37