Eseia 34:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Nesewch i wrando, chwi genhedloedd;clywch, chwi bobloedd.Gwrandawed y ddaear a'i llawnder,y byd a'i holl gynnyrch.

2. Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl,a'i lid ar eu holl luoedd;difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.

3. Bwrir allan eu lladdedigion,cyfyd drewdod o'u celanedd,a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.

4. Malurir holl lu'r nefoedd,plygir yr wybren fel sgrôl,a chwymp ei holl lu,fel cwympo dail oddi ar winwyddena ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.

5. Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.

Eseia 34