Eseia 33:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae'r wlad mewn galar a gofid,Lebanon wedi drysu a gwywo;aeth Saron yn anialwch,a Basan a Charmel heb ddail.

10. “Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD,“yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.

11. Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl;tân yn eich ysu fydd eich anadl;

12. bydd y bobl fel llwch calch,fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân.”

13. Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum,ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.

14. Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni,a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn:“Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol,a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?”

Eseia 33