Eseia 32:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. yna caiff barn drigo yn yr anialwcha chyfiawnder gartrefu yn y doldir;

17. bydd cyfiawnder yn creu heddwch,a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.

18. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon,mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,

19. a'r goedwig wedi ei thorri i lawr,a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.

20. Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon,ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.

Eseia 32