Eseia 30:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Canys, er bod ei swyddogion yn Soana'i genhadau mor bell â Hanes,

5. fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd,nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.”

6. Oracl am anifeiliaid y Negef:Trwy wlad caledi a loes,gwlad y llewes a'r llew,y wiber a'r sarff hedegog,fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnoda'u trysorau ar grwmp camelod,at bobl ddi-fudd.

7. Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag;am hynny galwaf hi, Rahab segur.

8. Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech,a nodi hyn mewn llyfr,iddo fod mewn dyddiau a ddawyn dystiolaeth barhaol.

Eseia 30