Eseia 30:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Bydd Asyria yn brawychu rhag sŵn yr ARGLWYDD,pan fydd ef yn taro â'i wialen.

32. Wrth iddo'i chosbi, bydd pob curiad o'i wialen,pan fydd yr ARGLWYDD yn ei gosod arni,yn cadw'r amser i dympanau a thelynau,yn y rhyfeloedd pan gyfyd ei fraich i ymladd yn eu herbyn.

33. Oherwydd darparwyd Toffet erstalwm,a'i baratoi i'r brenin,a'i wneud yn ddwfn ac yn eang,a'i bwll tân yn llawn o goed,ac anadl yr ARGLWYDD fel ffrwd o frwmstanyn cynnau'r tân.

Eseia 30