Eseia 29:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfni gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;am fod eu gwaith yn y tywyllwch,dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”

16. Troi popeth o chwith yr ydych.A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai?A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr,“Nid ef a'm gwnaeth”?A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?

17. Onid ychydig bach fydd etones troi Lebanon yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?

Eseia 29